Polisi Cefnogaeth Dysgu
Mae gan Coleg Glan Hafren ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cefnogi dysgu cynhwysfawr ac effeithiol i fyfyrwyr. Mae hyn yn galluogu unigolion, gyda fframwaith cefnogaeth addas, i gyrchu eu rhaglen ddysgu a chyflawni eu nodau dysgu.
Cydnabyddir darparu Cefnogaeth Dysgu fel ffactor pwysig i'r Coleg gyflawni ei amcanion am fyfyrwyr, fel y disgrifir yn y Cynllun Strategol.
Mae gan Gefnogaeth Dysgu nifer o nodau eang sy�n cynnwys:
- Sicrhau bod systemau er cyfeirio myfywyr i'w hasesu yn effeithiol a'u bod wedi'u deall yn glir gan bawb
- Sefydlu strwythur cydlynol a fframwaith ar gyfer rhoi cefnogaeth dysgu ychwanegol a sicrhau bod anian a chynydd y ddarpariaeth yn cael eu cyfathrebu â'r holl staff
- Adnabod a darparu'r gefnogaeth ychwanegol ac adnoddau sydd angen i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu anbledd eu cyrchu a chyflawni eu potensial o fewn eu dewis o faes astudio
- Darparu cefnogaeth gan Staff Arbenigol i gefnogi anghenion y myfyrwyr ar ôl eu hadnabod
- Galluogi myfyrwyr i ateb gofynion sgiliau sylfaenol eu rhaglenni dysgu trwy gefnogaeth ychwanegol, naill ai un-wrth-un, yn y dosbarth, neu yn y Canolfannau Astudio
- Hwyluso, lle bynnag bo posibl, darpariaeth ffurfiau gwahanol i destun safonol, gan gynnwys testun mawr, darparu cyfathrebwyr iaith arwyddion, a chymhorthion technegol a chyfarpar electronig
- Gwneud trefniadau eraill er mwyn asesu myfyrwyr anabl, os ymarferol a derbyniol, lle bo angen
- Darparu gofal a chefnogaeth bersonol, lle bo'n bosibl, i fyfyrwyr a adnabyddwyd fel rhai sydd gydag angen yn y dosbarth yn ogystal ag mewn ardaloedd cyhoeddus yn y Coleg
- Sicrhau, lle bo'n bosibl, y darperir cyfleusterau cludiant addas i fyfyrwyr anabl
- Sefydlu systemau monitro, asesu, a chofnodi cynnydd myfyrwyr sy'n cael cefnogaeth ychwanegol.

